Yr Wythnos Rhoi Organau orau eto

Wrth i ni edrych yn ôl ar yr Wythnos Rhoi Organau eleni, hoffem ddiolch o galon i bawb a gymerodd ran.
P’un ai ydych chi wedi mynd ati i oleuo adeilad neu droi eich hun yn binc, cymryd rhan yn y Race for Recipients, cymryd rhan mewn gweminar, gwrando ar Heart Breakfast neu, yn bwysicaf oll, cadarnhau eich penderfyniad i roi organau; diolch yn fawr!
Nod Wythnos Rhoi Organau yw mynd i’r afael â’r prinder rhoddwyr organau, drwy annog pobl i gadarnhau eu penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.
Rydym wedi gosod targed heriol i ni ein hunain, ac er nad ydym wedi cyrraedd y targed hwn eto, rydym wedi llwyddo i gael effaith enfawr yn barod.
Gyda’ch help chi, rydym wedi llwyddo i wneud y canlynol...
- Cael 16,000 o bobl yn cofrestru i roi organau, ac mae’r niferoedd yn parhau i gynyddu!
- Goleuo dros 150 o adeiladau ledled y Deyrnas Unedig
- Treblu nifer yr ymweliadau â’n gwefan
- Sicrhau bod stori am roi organau wedi cael sylw mewn 1000 a mwy o erthyglau yn y newyddion, ar y teledu ac ar y radio
- Llenwi’r cyfryngau cymdeithasol gyda straeon gan bobl sy’n frwd dros roi organau, pobl a gafodd fudd o roi organau, yn ogystal â straeon anhygoel gan bobl a roddodd organau i’w hanwyliaid
Fe wnaethom hefyd ddangos pa mor gyflym yw’r broses o gadarnhau eich penderfyniad ar-lein, a hynny drwy ambell her chwaraeon hwyliog. Sylwch: dim ond dau funud mae’n ei gymryd i gadarnhau eich penderfyniad!
Ond, mae rhagor o waith i’w wneud eto. Mae tua 7000 o bobl yn dal i aros am drawsblaniad organ, gan gynnwys dros 200 o blant.
Os nad ydych chi wedi cadarnhau eich penderfyniad i roi organau, gwnewch hyn nawr, a rhannwch eich penderfyniad gyda’ch teulu. Dyma’r peth gorau wnewch chi heddiw.
