Cofrestru eich penderfyniad


Eich dewisiadau chi ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG

English

 

Mae Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG yn gronfa ddata ddiogel sy’n cadw cofnod o’ch penderfyniad ynglŷn â rhoi organau.

Mae’r holl opsiynau sydd ar gael i chi i'w gweld isod.

Cyn dechrau

  1. Beth bynnag fydd eich penderfyniad, siaradwch â’ch anwyliaid. Ymgynghorir â nhw bob amser, a gallant wrthdroi eich penderfyniad os nad ydynt yn siŵr beth rydych chi eisiau.
  2. Mae rhoi organau wedi newid mewn rhai rhannau o’r Deyrnas Unedig. Edrych ar sut mae’r newidiadau yn effeithio arnoch chi (Bydd y cynnwys hwn yn agor yn y Saesneg)
  3. I roi dim ond rhai organau, cofrestrwch benderfyniad a chofnodwch eich dewisiadau
  4. Nid yw tynnu’n ôl o Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG yr un fath â chofnodi penderfyniad i beidio â rhoi (optio allan). Rhagor o wybodaeth (Bydd y cynnwys hwn yn agor yn y Saesneg)

Cofrestru i roi

Dewiswch yr opsiwn hwn os hoffech roi rhai neu’r cyfan o’ch organau a’ch meinwe

Cofrestru i beidio â rhoi

Dewiswch yr opsiwn hwn i gofnodi penderfyniad i beidio rhoi eich organau a’ch meinwe

Newid eich cofrestriad

Dewiswch yr opsiwn hwn i ddiweddaru eich dewisiadau cofrestru neu roi

Tynnu eich cofrestriad yn ôl

Dewiswch yr opsiwn hwn i dynnu eich enw oddi ar y gofrestr. Bydd hyn yn golygu nad oes unrhyw benderfyniad ynglŷn â rhoi organau wedi’i gofnodi amdanoch chi

Mwy o ddewisiadau