Mae hi'n Wythnos Rhoi Organau
Cymerwch ran, gwisgwch binc a helpwch i achub bywydau.
Ydych chi'n barod am y peth gorau wnewch chi heddiw?
Helpwch ni i annog o leiaf 25,000 o bobl i gofrestru i roi organau am y tro cyntaf.
Cofrestrwch eich penderfyniad i roi organau os ydych chi eisiau bod yn rhoddwr organau, a rhannwch y dudalen hon i’n helpu i gyrraedd ein nod.
Gallai dau funud nawr achub hyd at naw bywyd.

Helpwch ni i gyrraedd ein targed o 25,000 o roddwyr newydd a chodwch ein calonnau.
Daliwch ati gyda’r gwaith da!

Pam rydym yn ymgyrchu
Mae angen trawsblaniad achub bywyd ar fwy na 7000 o bobl ar hyn o bryd, ond yn anffodus dim ond tua 1400 o roddwyr organau sydd bob blwyddyn.
- Cofrestrwch ar-lein neu drwy Ap y GIG i fod yn rhoddwr organau
- Defnyddiwch y lliw pinc i dynnu sylw at yr angen am fwy o roddwyr organau ac i atgoffa pobl i gadarnhau eu penderfyniad
- Cymerwch ran yn y Race for Recipients
- Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i ddangos eich cefnogaeth i roi organau
Gyda’ch help chi, gallwn ni sicrhau mai dyma'r Wythnos Rhoi Organau orau eto.

Pinc ydy lliw Cerdyn Rhoi Organau’r GIG, felly er mwyn codi ymwybyddiaeth o roi organau, sef rhodd sy’n achub bywydau, rydym eisiau troi’r byd yn binc gymaint ag y gallwn ni.
Swnio’n hwyl? Cliciwch isod i weld sut gallwch chi gymryd rhan.
Adeiladau a thirnodau sy’n troi’n binc yr wythnos hon
Edrychwch ar ein map i weld a oes adeilad neu dirnod yn troi’n binc yn eich ardal chi.
Rhowch wybod i ni os bydd eich adeilad neu dirnod yn binc yn ystod Wythnos Rhoi Organau a byddwn yn ei ychwanegu at ein map!
Yn ystod Wythnos Rhoi Organau, gallwch chi ein helpu drwy wneud y canlynol:
- Rhannu eich lluniau ‘pinc’ ar y cyfryngau cymdeithasol, a’n tagio ni
- Annog pobl i ddefnyddio Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG gadarnhau eu penderfyniad ynglŷn â rhoi organau
- Rhannu ein deunyddiau digidol ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu i godi ymwybyddiaeth
- Mynd ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu eich stori eich hun am roi organau
- Rhannu’r dudalen hon i roi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw gefnogi ein hymgyrch
Cadwch ni mewn cysylltiad
Tagiwch ni: @NHSOrganDonor
Defnyddiwch: #WythnosRhoiOrganau #OrganDonation Week

Dydd Sadwrn 16 Medi i ddydd Sul 24 Medi.
Mae Race for Recipients yn her ar gyfer Wythnos Rhoi Organau sy'n cydnabod y rhai sy’n rhoi organau, y rhai sy’n derbyn organau, a’r rhai sy’n aros am drawsblaniad i achub eu bywydau.
Mae’r digwyddiad yn eich herio chi i ddathlu rhoi organau; y rhodd o fywyd, gyda thimau rhoi organau a chynrychiolwyr ledled y wlad.
Eisiau cymryd rhan?
Beth ydy Wythnos Rhoi Organau?
Mae Wythnos Rhoi Organau yn ymgyrch sy’n para am wythnos ac sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn. Ei nod ydy codi ymwybyddiaeth o’r angen parhaus am roddwyr organau.
Po fwyaf o bobl rydym yn eu cyrraedd, y mwyaf o bobl sy’n cofrestru eu penderfyniad i roi organau ar ôl iddyn nhw farw, a’r mwyaf o fywydau rydym yn eu hachub.