Rhoi cornbilen
Y ffeithiau
Mae yna lawer o wybodaeth anghywir ynghylch rhoi cornbilen, ond y gwir amdani yw y gall olygu rhoi golwg i rywun sydd wir angen trawsblaniad.
Rydym ni am i chi allu gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch rhoi eich cornbilennau ai peidio, felly rydym yn rhoi sylw i rai o’r camdybiaethau cyffredin isod.
Sicrhewch eich bod yn meddu ar y ffeithiau.

Nid yw'r llygad cyfan byth yn cael ei drawsblannu
Mae'r gornbilen yn cael ei thrawsblannu, sef yr haen allanol glir ar flaen y llygad sy'n helpu'r llygad i ffocysu golau.
Nid yw rhoi cornbilen yn effeithio ar sut mae rhoddwr yn edrych
Ar ôl rhoi cornbilen, bydd ein tîm arbenigol yn sicrhau bod y rhoddwr yn cynnal ymddangosiad naturiol. Mae llawer o roddwyr yn mynd ymlaen i gael angladd arch agored.
Nid yw rhoi cornbilen yn oedi angladd y rhoddwr
Nid yw rhoi cornbilen yn gohirio unrhyw drefniadau angladd, ac mae ein nyrsys arbenigol bob amser yn siarad â'r teulu i weld a oes ystyriaethau o ran ffydd, credoau neu ddiwylliant rhywun mewn perthynas â chynlluniau angladd.
Nid yw golwg gwael yn eich atal rhag rhoi eich cornbilennau
Gall pobl â golwg gwael roi eu cornbilennau o hyd. Nid yw llawer o gyflyrau sy'n effeithio ar olwg rhywun yn effeithio'n uniongyrchol ar y cornbilennau, sy'n golygu y gall fod yn bosibl eu rhoi o hyd.
Nid yw canser yn eich atal rhag rhoi eich cornbilennau
Gall pobl sydd â'r rhan fwyaf o fathau o ganser roi eu cornbilennau. Nid yw'r cornbilennau'n cynnwys pibellau gwaed, sy’n dileu'r risg o drosglwyddo'r mwyafrif o fathau o ganser.
Nid oes rhaid rhoi’r cornbilennau ar unwaith
Gallwch roi eich cornbilennau hyd at 24 awr ar ôl i chi farw a gellir rhoi cornbilennau ar ôl marwolaeth yn yr ysbyty, mewn hosbisau, neu mewn cartrefi angladd.
Rhodd golwg
Mae'n drueni bod chwedlau yn atal pobl rhag rhoi organau. Rwy'n gwybod bod rhai pobl yn wantan ond mae rhoi cornbilen yn ymwneud â rhodd golwg.Lynda
Mam Angharad Rhodes, seren CBeebies a derbynnydd cornbilen
