Tynnu’n ôl

English

 

Cyn i chi fwrw ymlaen...

Oeddech chi’n gwybod?

Dydy tynnu'n ôl ddim yr un fath ag optio allan. Rhaid i chi fod wedi dewis cofrestru penderfyniad ynghylch rhoi organau o'r blaen er mwyn tynnu penderfyniad yn ôl.

Dymuno optio allan?

Os nad ydych chi am roi organau, bydd angen i chi gofnodi penderfyniad i beidio â rhoi eich organau/meinwe (optio allan) ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG.

Tynnu cofrestriad yn ôl

Os byddwch yn tynnu'n ôl o'r gofrestr, ni fydd penderfyniad ynghylch rhoi organau wedi'i gofnodi ar eich cyfer. Mae hyn yn golygu:

  • Os ydych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr neu Jersey, nad ydych chi mewn grŵp sydd wedi'i eithrio o'r ddeddfwriaeth optio allan, ac nad ydych chi wedi cofrestru penderfyniad ynghylch rhoi organau, caiff ei ystyried eich bod yn cytuno i roi organau. Cydsyniad tybiedig yw enw hyn.

Os byddwch yn tynnu'n ôl ac yn newid eich meddwl yn nes ymlaen, gallwch chi gofnodi eich penderfyniad newydd ynghylch rhoi organau unrhyw bryd.

Beth bynnag yw eich penderfyniad, gwnewch yn siŵr bod eich teulu a'ch anwyliaid yn gwybod beth rydych chi'n ei ddymuno.