Diolch yn fawr

Cam 1 – Cwblhawyd

Diolch yn fawr, rydyn ni wedi derbyn eich cais i dynnu eich manylion oddi ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG. Os yw eich cofrestriad gwreiddiol wedi’i brosesu, byddwn yn ei ddileu a dylech dderbyn llythyr o gadarnhad i’r cyfeiriad post rydych chi wedi’i roi i ni. Cofiwch y gall y llythyr gymryd hyd at ddeg wythnos i gyrraedd ac os yw’n well gennych chi, gallwch ein ffonio ni ar 0300 123 23 23 i gadarnhau bod eich manylion wedi cael eu tynnu oddi ar y gofrestr.

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Jersey ac wedi llenwi’r ffurflen i dynnu eich manylion, nid yw hyn yn golygu eich bod wedi optio allan. Oni bai eich bod yn dweud wrth eich teulu nad ydych yn dymuno rhoi eich organau, neu os ydych chi’n perthyn i grŵp sydd wedi’i eithrio o’r ddeddfwriaeth optio allan, byddwch yn cael eich trin fel rhywun sy’n cytuno i roi eich organau.   Caniatâd tybiedig yw'r enw am hyn. Os nad ydych chi eisiau roi eich organau, mae’n bwysig eich bod yn llenwi’r ffurflen 'peidio â rhoi' i gofrestru eich penderfyniad nad ydych yn dymuno rhoi eich organau.

Cam 2 – Cofiwch siarad gyda’ch teulu

Mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i’ch teulu eich bod wedi tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr. Os byddwch yn marw o dan amgylchiadau lle mae rhoi yn bosibl, byddwn yn gofyn i’ch teulu a wnaethoch fynegi penderfyniad ar lafar. Os na wnaethoch hynny, byddwn yn gofyn iddynt wneud penderfyniad ar eich rhan.

Ni fyddant yn gwybod beth ydych chi ei eisiau oni bai eich bod yn dweud wrthyn nhw, felly helpwch nhw nawr i gefnogi eich penderfyniad ar amser anodd.

Yng Nghymru, Lloegr a Jersey, mae system ‘optio allan’ ar waith. Mae hyn yn golygu os nad oes unrhyw benderfyniad wedi’i gofnodi neu os nad yw eich teulu’n gwybod beth yw eich penderfyniad, ac nad ydych yn perthyn i grŵp sydd wedi’i eithrio, byddwn yn cymryd eich bod yn cytuno i roi eich organau.

Os byddwch yn newid eich meddwl, gallwch gofrestru eto ar unrhyw adeg neu os ydych yn dymuno cofrestru penderfyniad optio allan, gallwch wneud hynny hefyd.

Efallai bod gennych chi ddiddordeb mewn...

Gweld y gwahaniaeth anhygoel mae rhoi organau’n gallu ei wneud.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhoddwr gwaed?

Os ydych chi rhwng 17 a 65 oed, gallwch gofrestru i fod yn rhoddwr gwaed.

Cymru | Lloegr | Yr Alban | Gogledd Iwerddon