Ein hymrwymiad i ffydd a chredoau

English

 

Rydyn ni’n deall fod rhoi organau a meinweoedd yn unol â’u ffydd neu’u credoau yn bwysig i lawer o bobl.

I gydnabod hyn:

Pe baech ar fin marw neu fod cadarnhad wedi’i roi eich bod wedi marw, bydd ein nyrsys arbenigol yn rhoi gwybod i’ch teulu am eich penderfyniad i roi eich organau a/neu feinweoedd yn unol â’ch ffydd, eich credoau a’ch arferion. Bydd ein nyrsys arbenigol yn trafod gyda’ch teulu sut gallai’r rhoi organau fynd rhagddo yn unol â’ch dymuniadau, fel rydych chi wedi’u datgan, yn cynnwys rhannu gyda’ch teulu fanylion datganiadau perthnasol am eich ffydd a’ch credoau, a llinellau cymorth. Byddwn yn trafod â’ch teulu p’un a fydd angen efallai i’r broses o roi a chodi organau gael ei haddasu i barchu eich ffydd a’ch credoau.

Ar ôl cwblhau’r broses gofrestru, cewch gyfle i rannu’r ffaith eich bod wedi cofrestru i roi organau gyda’ch teulu, i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o’ch penderfyniad.

Mae gan eich teulu hawl i ofyn am gyngor a chefnogaeth gan eich awdurdodau crefyddol neu ofalwyr bugeiliol ar unrhyw gam yn y trafodaethau a’r broses rhoi organau neu feinweoedd.

Pe baech ar fin marw neu fod cadarnhad wedi’i roi eich bod wedi marw, byddwn yn ymgynghori â’ch teulu ynglŷn â’ch penderfyniad  ynghylch rhoi organau/meinweoedd. Bydd ein nyrsys arbenigol yn cefnogi eich teulu i gysylltu â’ch awdurdodau crefyddol neu’ch gofalwyr bugeiliol os yw’ch teulu yn dymuno ymgynghori â nhw. Gall eich awdurdodau crefyddol neu’ch gofalwyr bugeiliol siarad â’r rhai sydd â rhan yn y broses rhoi organau os yw’ch teulu yn dymuno.

Os yw’ch teulu am i’ch awdurdodau crefyddol neu’ch gofalwyr bugeiliol fod yn bresennol gyda nhw yn ystod y trafodaethau am roi organau neu feinweoedd neu ar unrhyw adeg yn y broses rhoi, yn cynnwys unrhyw ymchwiliadau neu weithredoedd a gaiff eu perfformio ar eich corff i gynnal y rhoi, ac i gael unrhyw wybodaeth berthnasol, bydd y nyrsys arbenigol yn cysylltu â’u cydweithwyr yn yr ysbyty i geisio cefnogaeth er mwyn i hyn ddigwydd.

Os gofynnir, a lle mae’n briodol, byddwn yn darparu gwybodaeth i’ch teulu oddi ar Gofrestr Rhoi Organau y GIG. Dim ond i’ch penderfyniad chi i roi organau y bydd y cofnodion hyn yn berthnasol, i gefnogi trafodaethau am y broses rhoi. Cyfrinachedd cleifion yw’r rheswm am hyn. Bydd y nyrsus arbenigol yn helpu eich teulu i siarad â staff yr ysbyty am y gofal rydych wedi’i gael. Gall eich teulu ddefnyddio’r wybodaeth hon, os yw’n dymuno, pan fydd yn trafod y potensial i wireddu eich penderfyniad rhoi gyda’ch awdurdodau crefyddol neu’ch gofalwyr bugeiliol.

Os bydd eich teulu (a’r awdurdodau crefyddol neu’r gofalwyr bugeiliol, os ydynt yn bresennol) yn fodlon fod posib rhoi eich organau neu feinweoedd mewn modd sy’n unol â’ch ffydd, eich credoau a’ch arferion, gall y rhoi organau fynd rhagddo. Os oes gan eich teulu unrhyw bryderon, bydd ein nyrsys arbenigol yn ei gefnogi i roi sylw i’r rhain a chytuno ar y ffordd orau ymlaen.