Wythnos Rhoi Organau 2026
Dydd Llun 21 Medi i ddydd Sul 27 Medi
Diolch
Hoffem ddiolch yn fawr i bawb a gefnogodd yr Wythnos Rhoi Organau!
Ym mhob cwr o’r wlad, rydyn ni wedi gweld enghreifftiau gwych o bobl yn cael eu hannog i gofnodi eu penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.
Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl yn cefnogi’r syniad o roi organau, ond yn ystod yr Wythnos Rhoi Organau eleni ein bwriad oedd troi’r gefnogaeth honno’n weithred.
Roedd miloedd o bobl wedi cadarnhau eu penderfyniad ynghylch rhoi organau yn ystod yr wythnos - ac mae hynny’n newyddion gwych!
Mae dal angen i fwy o bobl gofrestru eu penderfyniad
Mae nifer y bobl sydd ar y rhestr aros am drawsblaniad mor uchel ag erioed.
Felly daliwch ati i gefnogi ac i annog y bobl o’ch cwmpas i gofnodi eu penderfyniad ynghylch rhoi organau. Oherwydd gyda’n gilydd, gallwn helpu i achub mwy o bobl.
Diolch arbennig i'n llysgenhadon rhoi organau, teuluoedd rhoddwyr, partneriaid, y rhai a rannodd eu straeon, llefarwyr a'n holl gefnogwyr a roddodd o'u hamser i ddangos eu cefnogaeth i roi organau eleni.
Beth ydy Wythnos Rhoi Organau?
Mae Wythnos Rhoi Organau yn ddigwyddiad blynyddol, ac yn gyfle i ni ganolbwyntio ar bwysigrwydd rhoi organau a’r angen am ragor o roddwyr.
Eleni, mae angen eich cefnogaeth arnom yn fwy nag erioed gan fod angen trawsblaniad ar dros 8,500 o bobl ar hyn o bryd i achub neu i wella eu bywydau.