Beth yw rhoi organau?

Rhodd werthfawr sy’n achub miloedd o fywydau yn y DU bob blwyddyn yw rhoi organau.

English

 

Sef pan fyddwch chi’n dewis rhoi organ er mwyn achub neu newid bywyd rhywun arall.

Oeddech chi’n gwybod bod rhywun yn marw bob dydd yn aros am drawsblaniad organ?

Mae’r rhan fwyaf o organau a meinwe yn dod gan bobl sydd wedi marw. Gallwch chi fynd ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG i gofnodi a ydych chi eisiau bod yn rhoddwr organau ai peidio pan fyddwch chi’n marw.

Gallwch chi roi rhai organau tra byddwch chi’n fyw, a’r enw ar hyn yw rhoi organau byw. Mae proses wahanol ar gyfer cofrestru eich diddordeb mewn bod yn rhoddwr organau byw.

Rhoi organau mewn 40 eiliad

Gwyliwch ein fideo byr i gael gwybod mwy am roi eich organau ar ôl i chi farw.

Pe bai angen trawsblaniad organ arnoch chi, a fyddech chi'n cael un?

Drwy gofrestru i roi organau, gallech chi achub hyd at 9 bywyd ryw ddydd.

Sut i fod yn rhoddwr organau

Gwybodaeth am roi organau

Darllenwch am roi organau ar ein gwefan. Os yw eich ffydd a’ch credoau yn rhan bwysig o’ch bywyd, gofynnwch am arweiniad a chyngor gan eich arweinydd ffydd i’ch helpu i wneud eich penderfyniad.

Cofrestrwch eich penderfyniad

A woman using a laptop while holding a hot drink

Dim ond 2 funud mae’n ei gymryd i gofrestru eich penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG, a bydd hyn yn helpu eich anwyliaid i gefnogi eich dewis.

Siaradwch â’ch anwyliaid

Bydd angen i’ch anwyliaid gefnogi eich penderfyniad, ac ni fydd rhoi organau’n digwydd os bydd eich teulu’n gwrthwynebu. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod beth rydych chi eisiau.

Cofrestru neu ddiweddaru eich penderfyniad

Dechrau nawr

Sut mae rhoi organau’n digwydd

Edrychir ar y gofrestr

Os byddwch chi’n marw mewn ffordd sy’n golygu bod rhoi organau yn bosibilrwydd, bydd nyrs arbenigol yn edrych ar y gofrestr i weld a oeddech chi wedi cofrestru penderfyniad.

Bydd eich anwyliaid yn cael eu holi

Bydd y nyrs arbenigol yn trafod eich penderfyniad gyda’ch anwyliaid, neu os nad oeddech chi wedi cofrestru penderfyniad, gofynnwch i’ch anwyliaid a ydyn nhw’n gwybod beth yw eich teimladau chi am roi organau. Ni fydd rhoi organau’n digwydd os bydd eich teulu’n gwrthwynebu, felly mae’n bwysig iawn eu bod yn gwybod beth rydych chi eisiau.

Mae eich penderfyniad yn cael ei barchu

Pe baech chi wedi cofrestru penderfyniad i roi organau, neu pe bai eich teulu wedi dweud wrth y nyrs arbenigol mai dyna fyddai eich dymuniad, gallai eich rhodd o organau achub hyd at 9 o fywydau. Os oeddech chi wedi cofrestru penderfyniad i beidio â rhoi, bydd hyn yn cael ei barchu.

Mwy o wybodaeth am roi organau