Wythnos Rhoi Organau 2025
Dydd Llun 22 Medi i ddydd Sul 28 Medi
Beth ydy Wythnos Rhoi Organau?
Rydym yn defnyddio’r wythnos hon bob blwyddyn i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhoi organau, yr angen i gynyddu nifer y bobl sydd ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG ac i alw am ragor o roddwyr i helpu’r rhai sy’n aros am drawsblaniad.
Mae’r rhestr aros yn hirach nag erioed, ac mae angen eich cefnogaeth chi arnom. Ar hyn o bryd mae angen trawsblaniad ar dros 8000 o bobl i achub neu wella eu bywydau.
Dydy eich penderfyniad chi erioed wedi bod mor bwysig
Byddai’r rhan fwyaf ohonom yn derbyn organ petai angen un arnom ni, ac rydych chi’n fwy tebygol o fod angen trawsblaniad nag ydych chi o fod yn rhoddwr.
Os ydych chi eisiau bod yn rhoddwr organau, y cam cyntaf yw rhoi eich enw ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG.
Gallai eich penderfyniad achub bywyd hyd at 9 o bobl Dyma’r peth gorau wnewch chi heddiw.