Mwy o Wybodaeth am Wrthod Rhoi Organau
Na , dydw i ddim eisiau rhoi.
Rydym yn deall mai dewis personol yw'r penderfyniad i beidio â rhoi eich organau pan fyddwch yn marw. Rydym yn gobeithio rhoi'r holl wybodaeth angenrheidiol i chi fel eich bod yn gallu gwneud y dewis sy'n iawn i chi.
Mwy o wybodaeth am eich dewisiadau
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Jersey, a ddim yn perthyn i grŵp sydd wedi'i eithrio ar gyfer y ddeddfwriaeth optio allan, a heb gofrestru eich penderfyniad ynglŷn â rhoi organau, fe fyddwch yn cael eich trin fel petaech yn cytuno i roi eich organau. Caniatâd tybiedig yw'r enw am hyn.
Os nad ydych am roi eich organau, fe ddylech gofrestru eich penderfyniad i wrthod rhoi organau. Cofiwch ddweud wrth eich teulu a’ch anwyliaid am eich penderfyniad.