Cofrestru eich penderfyniad
Eich dewisiadau chi ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG
Mae Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG yn gronfa ddata ddiogel sy’n cadw cofnod o’ch penderfyniad ynglŷn â rhoi organau.
Mae’r holl opsiynau sydd ar gael i chi i'w gweld isod.
Cyn dechrau
- Beth bynnag fydd eich penderfyniad, siaradwch â’ch anwyliaid. Ymgynghorir â nhw bob amser, a gallant wrthdroi eich penderfyniad os nad ydynt yn siŵr beth rydych chi eisiau.
- Mae rhoi organau wedi newid mewn rhai rhannau o’r Deyrnas Unedig. Edrych ar sut mae’r newidiadau yn effeithio arnoch chi (Bydd y cynnwys hwn yn agor yn y Saesneg)
- I roi dim ond rhai organau, cofrestrwch benderfyniad a chofnodwch eich dewisiadau
- Nid yw tynnu’n ôl o Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG yr un fath â chofnodi penderfyniad i beidio â rhoi (optio allan). Rhagor o wybodaeth (Bydd y cynnwys hwn yn agor yn y Saesneg)
Cofrestru i roi
Dewiswch yr opsiwn hwn os hoffech roi rhai neu’r cyfan o’ch organau a’ch meinwe
Cofrestru i beidio â rhoi
Dewiswch yr opsiwn hwn i gofnodi penderfyniad i beidio rhoi eich organau a’ch meinwe
Newid eich cofrestriad
Dewiswch yr opsiwn hwn i ddiweddaru eich dewisiadau cofrestru neu roi
Tynnu eich cofrestriad yn ôl
Dewiswch yr opsiwn hwn i dynnu eich enw oddi ar y gofrestr. Bydd hyn yn golygu nad oes unrhyw benderfyniad ynglŷn â rhoi organau wedi’i gofnodi amdanoch chi