Mwy o Wybodaeth am Dynnu'n ôl o'r Gofrestr
Rydym yn deall y byddwch efallai am dynnu eich manylion oddi ar y gofrestr.
Os ydych chi’n tynnu eich enw oddi ar y gofrestr ni fydd gennym gofnod o'ch penderfyniad ynglŷn â rhoi organau.
Dywedwch wrth eich teulu/anwyliaid a ydych chi’n dymuno rhoi eich organau.
Os byddwch yn tynnu eich enw ac wedyn yn newid eich meddwl, gallwch gofrestru eich penderfyniad newydd ar unrhyw adeg.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Jersey, a ddim yn perthyn i grŵp sydd wedi'i eithrio o’r ddeddfwriaeth optio allan, a heb gofrestru eich penderfyniad ynglŷn â rhoi organau, fe fyddwch yn cael eich trin fel petaech yn cytuno i roi eich organau. Caniatâd tybiedig yw'r enw am hyn. Os nad ydych yn dymuno rhoi eich organau, yna bydd yn rhaid i chi gofnodi penderfyniad i beidio â rhoi eich organau/meinwe (optio allan) ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG a dweud wrth eich teulu a’ch anwyliaid am eich penderfyniad.