Diolch yn fawr
Cam 1 - Cwblhawyd
Croeso, a diolch yn fawr i chi am gymryd y cam cyntaf a chofnodi eich penderfyniad i roi ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG. Rydych chi wedi ymuno â’r miliynau o bobl sy’n cynnig gobaith i’r rhai sydd angen trawsblaniad i newid eu bywydau.
Cam 2 - Siaradwch gyda’ch teulu
Mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i’ch teulu eich bod wedi gwneud penderfyniad i roi eich organau a/neu eich meinwe pan fyddwch yn marw. Os yw rhoi’n bosibl, byddwn yn siarad gyda’ch teulu am y ffaith eich bod wedi cofrestru fel rhoddwr, yn gwirio nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth ddiweddarach am eich penderfyniad ac yn gofyn iddynt gefnogi’r penderfyniad rydych chi wedi’i wneud.
Ni fydd eich teulu’n gwybod beth ydych chi ei eisiau oni bai eich bod yn dweud wrthyn nhw, felly peidiwch â gadael iddo fod yn sypreis.
Helpwch nhw i gefnogi eich penderfyniad ar amser anodd. Siarad gyda nhw am y penderfyniad hwnnw nawr.
Cael eich Cerdyn Rhoddwr Organau nawr
Rydyn ni’n anfon cerdyn rhoddwr organau at bawb sy’n cofrestru am y tro cyntaf, ond hefyd gallwch lawrlwytho a rhannu’r cerdyn ar unwaith.
- Ewch ati i decstio neu yrru eich cerdyn rhoddwr ar Whatsapp at ffrindiau a theulu.
- Lawrlwythwch sgrin cloi ar gyfer eich ffôn clyfar, a dangos eich cefnogaeth i roi organau ble bynnag ydych chi.
- Argraffu eich cerdyn rhoddwr eich hun.
Dilynwch ni a rhannu eich penderfyniad
Gallwch chi achub mwy fyth o fywydau...
Os ydych chi rhwng 17 a 65 oed, gallwch gofrestru i fod yn rhoddwr gwaed.
Cymru | Lloegr | Yr Alban | Gogledd Iwerddon