Diolch yn fawr
Cam 1 - Wedi cwblhau
Croeso a diolch yn fawr iawn i chi am gymryd y cam cyntaf a chofnodi eich penderfyniad i roi organau ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.
Rydych chi wedi ymuno â'r miliynau o bobl sy'n rhoi gobaith i’r bobl hynny sydd angen trawsblaniad a fydd yn newid eu bywyd.
Cam 2 - Siaradwch â’ch teulu
Rhaid i chi roi gwybod i'ch teulu eich bod chi wedi gwneud y penderfyniad i roi eich organau a/neu eich meinwe pan fyddwch chi’n marw.
Wrth gofrestru i roi eich organau, fe wnaethoch chi ddweud wrthym y byddech chi’n hoffi i staff y GIG siarad â’ch teulu (ac unrhyw yn arall sy’n briodol) am sut mae rhoi organau yn gallu cyd-fynd â’ch ffydd a’ch credoau. Dylech drafod â’ch teulu eich penderfyniad i roi organau a beth yw eich dymuniadau pan ddaw hi’n amser. Bydd eich teulu'n gallu gweithredu ar eich rhan a rhoi gwybod i Staff y GIG beth yw eich gofynion.
Dylech fynnu eich Cerdyn Rhoi Organau nawr
Rydyn ni’n anfon cerdyn rhoi organau at bawb sy’n cofrestru am y tro cyntaf.
- Gallwch lwytho’r cerdyn i lawr a’i rannu’n syth hefyd.
- Anfonwch eich cerdyn rhoi organau at deulu a ffrindiau drwy neges destun neu WhatsApp.
- Llwythwch sgrin cloi i lawr ar gyfer eich ffôn clyfar, gan ddangos eich cefnogaeth dros roi organau ble bynnag rydych chi.
- Argraffwch eich cerdyn rhoi organau eich hun.
Dilynwch ni a rhannu eich penderfyniad
Gallwch chi achub mwy fyth o fywydau...
Os ydych chi rhwng 17 a 65 oed, gallwch gofrestru i fod yn rhoddwr gwaed.
Cymru | Lloegr | Yr Alban | Gogledd Iwerddon