Deddfwriaeth Gymreig

Os ydych chi'n byw yng Nghymru, darllenwch hwn yn ofalus. 

Mae'r gyfraith yng Nghymru wedi newid i ddod mewn system 'optio allan' meddal am ganiatâd i roi organau. Mae pobl sy'n byw yng Nghymru bellach dri dewis:

  • Os ydych chi am roi organau, gallwch un ai gofrestru i fod yn rhoddwr (optio i mewn) ar Gofrestr Rhoi Organau'r GIG neu wneud dim byd
  • Os byddwch chi'n gwneud dim byd, byddwn yn cymryd nad oes gennych chi wrthwynebiad i roi'ch organau.  Caiff hyn ei alw’n gydsyniad tybiedig.
  • Os nad ydych chi am roi organau, gallwch gofrestru i beidio â bod yn rhoddwr (optio allan) ar Gofrestr Rhoi Organau'r GIG

Hefyd, gallwch benodi cynrychiolydd i wneud y penderfyniad ar eich rhan ar ôl i chi farw.

Drwy dynnu eich enw oddi ar Gofrestr Rhoi Organau'r GIG yn gyfan gwbl, rydych nawr wedi rhoi eich hun yn y categori “gwneud dim byd” neu “gydsyniad tybiedig”.

Rhagor o wybodaeth