Rhoi organau a meinweoedd - ateb i'ch cwestiynau

11Allwch chi roi organ tra’ch bod yn fyw?

Gallwch, mewn rhai achosion. Mae prinder organau wedi golygu bod mwy a mwy o organau’n cael eu rhoi gan bobl sy’n fyw.

Yr organ sy’n cael ei rhoi amlaf gan bobl fyw yw arennau gan fod person iach yn gallu byw bywyd cwbl normal gyda dim ond un aren iach. Mae arennau sy’n cael eu trawsblannu o roddwyr byw yn fwy tebygol o oroesi dros y tymor hir na rhai sy’n cael eu trawsblannu o bobl sydd wedi marw. Mae nifer o resymau dros hyn, a’r mwyaf yw bod y rhoddwyr yn fyw ac yn iach. Daw bron i un o bob tair aren sy’n cael eu trawsblannu o roddwyr byw.

Gellir trawsblannu rhan o’r iau neu afu ac mae hefyd yn bosibl rhoi tamaid o ysgyfaint ac, mewn nifer fach iawn o achosion, rhan o’r coluddyn bach. Yn achos pob un o’r trawsblaniadau hyn o berson byw, mae’n rhaid ystyried y risg i’r rhoddwr yn ofalus iawn. Cyn bwrw ymlaen gyda thrawsblaniad o berson byw mae’n rhaid cydymffurfio â rheoliadau caeth iawn a dilyn proses asesu a thrafod drylwyr dros ben.

Mae Deddf Meinweoedd Dynol 2004, a Deddf Meinweoedd Dynol (yr Alban) 2006, yn caniatáu dau fath newydd o roi aren gan roddwyr byw – rhodd wedi’i pharu a rhodd allgarol.

Mae rhoddwyr yn aml yn berthynas agos ond gallant hefyd fod yn unigolion nad ydynt yn perthyn ond sydd â pherthynas emosiynol agos â’r derbynnydd, fel partner neu ffrind agos. Weithiau ni fydd y rhoddwr a’r derbynnydd yn cydweddu â’i gilydd oherwydd y gwahaniaeth rhwng eu grwp gwaed neu eu meinwe ac mewn achos o’r fath efallai y gellir paru gyda rhoddwr a derbynnydd arall sydd yn yr un sefyllfa. Mae hyn yn golygu y bydd y ddau dderbynnydd yn elwa ar drawsblaniad na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall (gelwir hyn yn rhodd wedi’i pharu). Pan fydd mwy na dau bâr yn rhan o drefniadau cyfnewid o’r fath gelwir hyn yn rhodd wedi’i chyfuno. Gall rhoddwyr hefyd gynnig aren i rywun sydd ar y rhestr aros am drawsblaniad, er nad ydynt wedi cyfarfod y person hwnnw o’r blaen (gelwir hyn yn rhodd allgarol heb ei chyfeirio).

Sefydlwyd yr Awdurdod Meinweoedd Dynol yn sgil Deddf Meinweoedd Dynol 2004. Un o rolau’r Awdurdod yw rheoleiddio trawsblaniadau rhoddwyr byw yn y DU. 

Gallwch ddysgu mwy am fod yn rhoddwyr aren byw trwy ddarllen ein taflen Allwn i fod yn rhoddwr aren byw? sydd ar gael trwy ffonio’r Llinell Gymorth Rhoddwyr Organau (0300 123 23 23) neu fynd i’r adran Sut i ddod yn rhoddwr ar wefan UK Transplant.

Os hoffech gael gwybod mwy am roddion pâr/cyfun neu allgarol heb eu cyfeirio, cysylltwch â'ch canolfan drawsblannu arennau agosaf. Mae manylion am ganolfannau trawsblannu arennau ar gael ar wefan UK Transplant: www.organdonation.nhs.uk/ukt/about_transplants/transplant_units/transplant_units.asp

Cewch ragor o wybodaeth am waith yr Awdurdod Meinweoedd Dynol, gan gynnwys taflen ar drawsblaniadau rhoddwyr byw, ar eu gwefan: www.hta.gov.uk.

Read about legislation here

12Pam fod angen i mi benderfynu a ydw i am fod yn rhoddwr?

Yn y DU ni fydd organau a meinwe gan roddwr posibl yn cael eu defnyddio oni bai eu bod wedi mynegi dymuniad i wneud hynny. Gallwch fynegi eich dymuniad mewn sawl ffordd megis rhoi gwybod i berthynas neu ffrind agos, trwy gadw cerdyn rhoi organau neu gofnodi eich dymuniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG. Bydd rhoi eich enw ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG yn ei gwneud yn haws i’r GIG gadarnhau eich dymuniadau ac i’r rhai oedd agosaf atoch pan oeddech yn fyw i ddilyn y dymuniadau hynny.

Os na fydd eich dymuniadau’n eglur, gofynnir i’r person a oedd agosaf atoch beth fyddai eich dymuniad wedi bod, felly mae’n bwysig eich bod yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’ch barn ar roi organau.

13Beth yw Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG?

Mae Cofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG yn achub bywydau, yn llythrennol. Mae'n gronfa ddata gyfrinachol a gedwir ar gyfrifiadur sy'n cofnodi dymuniad dros 13 miliwn o bobl sydd wedi penderfynu eu bod am adael rhodd o fywyd i rywun arall ar âl iddynt farw. Defnyddir y gofrestr i helpu i gadarnhau a oedd person am roi organ neu feinwe, ac os oedd, pa organau neu feinweoedd.

14 A oes angen i mi gofrestru os oes gennyf gerdyn rhoi organau?

Oes. Mae cardiau’n mynd ar goll neu’n difetha ac efallai na fydd ar eich person pan eir â chi i’r ysbyty. Mae ychwanegu eich enw at y rhestr yn ffordd fwy parhaol o gofnodi eich dymuniad. Gallwch barhau i gario’r cerdyn os mynnwch. Cofiwch ddweud wrth eich perthnasau beth yw eich dymuniadau.

15 A fydd fy enw a fy nghyfeiriad yn cael eu rhoi i sefydliadau eraill?

Na fydd. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio gan Waed a Thrawsblannu’r GIG i gofrestru eich dymuniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol pe baech yn marw. Ni fydd eich manylion personol yn cael eu rhoi i unrhyw unigolyn neu sefydliad heb eich caniatâd penodol chi.

16Nid wyf yn cofio a wyf wedi cofrestru eisoes, beth ddylwn ei wneud?

Un ai ysgrifennwch atom a gofynnwch (mae natur gyfrinachol y gofrestr yn golygu na allwn ddweud wrthych dros y ffôn) neu gwnewch gais i ymuno â’r rhestr a bydd y system yn gallu dweud a yw eich enw ar y gofrestr eisoes a gall ddiweddaru unrhyw fanylion perthnasol.

Back to organ donation - your questions...

Join the Organ Donor Register 0300 123 23 23

Why I want to be a donor...

Registered organ donor - Nigel Gascoigne

"Joining the register made me feel good, knowing that, should I die, my passing might save someone else's life"

Nigel Gascoigne

Lincolnshire police

Did you know..?

Many families who have lost loved ones have been comforted by the knowledge that through their loss they have made the gift of life to others.